English | Cymraeg
Cartref
Croeso i wefan Sir y Fflint mewn Partneriaeth

Ar y safle hwn cewch wydobaeth am Sir y Fflint mewn Partneriaeth, y Partneriaethau Strategol sy'n rhan o Sir y Fflint mewn Partneriaeth a'r Strategaeth Gymunedol.

Mae prif dasgau Sir y Fflint mewn Partneriaeth yn cynnwys:

  • Paratoi a gweithredu Strategaeth Gymunedol ar gyfer Sir y Fflint.
  • Casglu cynlluniau lleol a mentrau'r partneriaid ynghyd er mwyn creu fforwm sy'n gyfrwng i ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus y brif ffrwd gydweithio'n effeithiol i ddiwallu anghenion lleol.

Strwythur Sir y Fflint mewn Partneriaeth

Rhwydwaith o gyrff yw Sir y Fflint mewn Partneriaeth. Er mwyn cyflawni ei amcanion a gwneud ei waith yn effeithiol, mae nifer o wahanol grwpiau o fewn Sir y Fflint mewn Partneriaeth. Mae'r strwythur yn cynnwys:

  • Y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc.
  • Y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol
  • Y Bartneriaeth Iechyd, Gofal a Lles Cymdeithasol
  • Y Bartneriaeth Adfywio
  • Compact y Sector Gwirfoddol.

Mae Partneriaeth Sir y Fflint yn cael cymorth gan y Tim Partneriaeth a grwp o gydgysylltwyr yng Nghyngor Sir y Fflint, sy'n rhoi cymorth i'r partneriaid wrth iddynt fynd ati i ddatblygu a chydgysylltu'r bartneriaeth a'i gwaith.